AMDANOM NI

BUCANIER: Ysbrydoli arloesedd yn y sectorau Bwyd a Diod, Ynni Adnewyddadwy a Gwyddorau Bywyd

Bydd oddeutu 120 o fusnesau bach yng Nghymru ac Iwerddon yn elwa ar gynllun newydd gwerth €2.9 miliwn a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd. Amcan BUCANIER (Adeiladu Clystyrau a Rhwydweithiau Arloesedd, Menter ac Ymchwil) yw rhoi cymorth i fusnesau bach ar ffin Môr Iwerddon dros y tair blynedd nesaf. Mae’n ceisio cynyddu capasiti busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol i arloesi drwy gydweithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch a chyrff cyhoeddus eraill er mwyn rhoi hwb i gynhyrchiant ar draws Cymru ac Iwerddon. Bydd y prosiect yn gweithio yn sectorau twf allweddol economïau Cymru ac Iwerddon, bwyd a diod, gwyddorau bywyd ac ynni adnewyddadwy.

Fel rhan o’r prosiect, bydd y partner arweiniol, sef Cyngor Sir Penfro, yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe a Chyngor Sir Caerfyrddin yng Nghymru, ac Institute of Technology Carlow, Bord Iascaigh Mhara a Chyngor Sir Wexford yn Iwerddon. Bydd BUCANIER yn cynnig dosbarthiadau meistr mewn arloesedd, yn mentora busnesau ac yn creu rhwydweithiau newydd rhwng Cymru ac Iwerddon sydd â’r nod o helpu mentrau yn yr un sectorau i rannu gwybodaeth, gwella masnach drawsffiniol a chreu swyddi newydd.

Bydd y prosiect yn buddsoddi mewn syniadau ynghylch dylunio, datblygu, a darparu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd a chynnal profion arnynt drwy arloesi ar sail dylunio a fydd yn dod â syniadau o ran cynnyrch/gwasanaethau yn agosach at y farchnad fasnachol. Bydd BUCANIER hefyd yn cynorthwyo i sefydlu clystyrau a rhwydweithiau trawsffiniol a fydd yn caniatáu trosglwyddo gwybodaeth rhwng Sefydliadau Addysg Uwch a busnesau bach a chanolig. Y nod yw datblygu effeithlonrwydd y diwydiant drwy rannu gwybodaeth, arferion a chontractau.

BUCANIER divider

pedwar piler

Mae’r prosiect BUCANIER yn cynnwys pedwar prif biler a ddefnyddir i gryfhau ymchwil, datblygiad technolegol ac arloesedd:

Y BROSES ARLOESI

Bydd y piler cyntaf yn cyflwyno fframwaith arloesi i sefydliadau er mwyn eu helpu i ddeall y broses a’r arferion sydd eu hangen wrth greu syniadau newydd o ran cynnyrch a gwasanaethau, a sut i fynd â nhw’n agosach at y farchnad.

DYLUNIO

Yr ail biler fydd buddsoddi mewn dylunio er mwyn rhoi sail i’r syniadau a’u dilysu. Gan ddefnyddio lleoliadau ar gyfer dylunwyr megis y rhwydwaith Fab Lab a mentoriaid dylunio, bydd cyfranogwyr yn cael cipolygon a delweddau o’r syniad wedi’i ddatblygu trwy wneud ymchwil o ran dyluniad, ffurfio cysyniadau, mireinio’r cynnyrch a phrototeipo.

MASNACHEIDDIO

Y trydydd piler fydd cynorthwyo sefydliadau i fynd â syniadau i’r farchnad fasnachol. Neilltuir ymarferwyr profiadol i’r cwmnïau er mwyn helpu i alluogi, hwyluso a herio materion allweddol.

CLYSTYRAU A RHWYDWEITHIAU

Y pedwerydd piler fydd creu neu wella clystyrau a rhwydweithiau trawsffiniol, gan gynnwys y rhai sy’n gyffredinol neu’n benodol i sector arbennig. Bydd y cysyniad o arloesi agored yn cael ei weithredu wrth rannu syniadau cyffredinol, trosglwyddo gwybodaeth a meithrin arferion gorau yn y grwpiau hyn.

Ariennir BUCANIER yn rhannol gan raglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd 2014-2020 Cymru Iwerddon (ETC) sy’n cysylltu sefydliadau, busnesau a chymunedau ar arfordir gorllewin Cymru ag ardal Cynulliad Rhanbarth y De yn Iwerddon. Mae rhaglen Cymru Iwerddon yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r ddwy wlad, er mwyn gwella blaenoriaethau Cymru ac Iwerddon o ran yr economi a datblygiad cynaliadwy.