BUCANIER bord logo

BORD IASCAIGH MHARA

Bord Iascaigh Mhara Mae BIM yn helpu i ddatblygu Diwydiant Bwyd Môr Iwerddon drwy ddarparu arbenigedd technegol, cymorth busnes, cyllid, hyfforddiant a hyrwyddo arfer amgylcheddol cyfrifol. Mae BIM yn cefnogi twf diwydiant bwyd môr Iwerddon, gyda ffocws ar gynyddu proffidioldeb a chyflogaeth yn y sector. Mae’n rhoi cymorth i gwmnïau bwyd môr drwy amrywiaeth o wasanaethau masnachol.

Cenhadaeth BIM yw tyfu diwydiant bwyd môr ffyniannus yn Iwerddon; ehangu’r sylfaen deunydd crai, ychwanegu gwerth a datblygu cadwyni cyflenwi effeithlon sydd gyda’i gilydd yn cyrraedd targedau Cynhaeaf Bwyd 2020 y Llywodraeth ar gyfer bwyd môr ac yn creu swyddi cynaliadwy.

Mae swyddogion rhanbarthol BIM, sy’n gweithio o amgylch yr arfordir, yn cynnig gwasanaeth mentora proffesiynol ymarferol mewn cynllunio busnes, adnabod cyfleoedd marchnad newydd a brandio, yn ogystal â chynghori ar gyllid – a’r cyfan sy’n galluogi cwmnïau i dyfu’n gyflymach nag y gallent ar eu pen eu hunain. Gall ein swyddogion rhanbarthol eich cyfeirio at ein hamrywiaeth o fusnesau. Panel Cymorth Mentora Busnes: Lle bo’n ofynnol, gall BIM gynnig i gwmnïau cleient hyd at dri diwrnod o gymorth mentora busnes gyda phanel o fentoriaid busnes allanol.

Rydym yn helpu i ddatblygu diwydiant bwyd môr Iwerddon drwy ddarparu:

  • cyllid
  • hyfforddiant
  • a thrwy hyrwyddo arferion amgylcheddol cyfrifol
  • arbenigedd technegol
  • cymorth busnes

Patricia Daly

Patricia Daly yw Uwch Swyddog Cyfrifol BUCANIER ym Mwrdd Iascaigh Mhara. Mae hi hefyd yn Rheolwr Prosiect BIM ar gyfer Prosiect Cydweithrediad Iwerddon Cymru, Bluefish. Mae Patricia wedi gweithio yn y Sector Dyframaeth yn Iwerddon ers dros 20 mlynedd yn rheoli prosiectau Ymchwil a Datblygu mewn partneriaeth â chwmnïau unigol, gan ddarparu hyfforddiant trwy weithdai sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant a gweithredu trosglwyddo technoleg arloesol i ddatblygu ac ehangu’r sector mewn ffordd gynaliadwy. Mae gan Patricia Radd Anrhydedd mewn Sŵoleg o Goleg y Drindod Dulyn ac MSc mewn Dyframaethu o Goleg Prifysgol Corc.

Ffôn: +353 1 214 4253
E-bost: daly@bim.ie

Dr Jeanne Gallagher

Jeanne Gallagher yw Swyddog Prosiect BUCANIER ym Mwrdd Iascaigh Mhara. Mae hi wedi bod yn ymwneud yn flaenorol â phrosiectau Ewropeaidd eraill gan gynnwys bod yn Gynorthwyydd Technegol ar gyfer Prosiect BlueFish Rhaglen Cydweithrediad Iwerddon Cymru. Mae gan Jeanne llawer o flynyddoedd o brofiad yn gweithio yn y byd academaidd ar ôl cwblhau ei PhD yng Ngholeg Prifysgol Dulyn yn 2019. Mae ganddi radd B.A. yn y Cyfryngau a Marchnata o Ysgol Fusnes Dulyn a gradd B.Sc. o Goleg Prifysgol Dulyn.

Ffôn: +353 1 214 4124
E-bost: Jeanne.Gallagher@bim.ie

BUCANIER bord bottom img