BUCANIER Carmarthenshire logo

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyngor rhagweithiol, uchel ei berfformiad yw Cyngor Sir Caerfyrddin, sy’n anelu at ddarparu gwasanaethau o ansawdd a sicrhau bod Sir Gâr yn lle gwell i fyw, gweithio a mwynhau
amser hamdden. Mae CSC yn cydnabod ei fod yn dibynnu ar ymroddiad a gwaith caled ei gyflogeion er mwyn
darparu’r gwasanaethau hyn, a’i nod yw cefnogi’r cyflogeion hyn ym mhob cyfnod o’u gyrfaoedd.

Elliott Boyd

Elliott Boyd yw’r Swyddog BUCANIER yn nhîm Datblygu Economaidd Cyngor Sir Caerfyrddin. Rôl flaenorol Elliott oedd Swyddog Cyswllt â Chyflogwyr yng Nghyngor Sir Caerfyrddin ac mae ganddo gefndir o weithio gyda busnesau, ymgysylltu â chymunedau a rhoi cymorth cyflogaeth i grwpiau difreintiedig. Mae Elliott wedi ymrwymo i gefnogi Busnesau Bach a Chanolig a mentrau cymdeithasol er mwyn cynyddu capasiti i arloesi drwy gydweithio.

Ffôn: +44 01554 742535
E-bost: EJBoyd@carmarthenshire.gov.uk

BUCANIER Barry

Barry Hale

Mae Barry Hale wedi gweithio mewn amryw swyddi cynghori a rheoli yn y meysydd datblygu economaidd a chymorth busnes ers 20 mlynedd a rhagor. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n cynorthwyo cannoedd o fusnesau i sefydlu neu dyfu a bu’n rhan o lawer o rwydweithiau perthnasol y gall eu defnyddio oll i gefnogi cyflenwi BUCANIER.

Ffôn: +44 1554 748813
E-bost: BHale@carmarthenshire.gov.uk

BUCANIER bord bottom img