BUCANIER pembrokeshire logo

Cyngor Sir Penfro

Mae Cyngor Sir Penfro (CSP) yn awdurdod lleol yn Ne Orllewin Cymru sydd â datblygiad ac adfywiad economaidd yn rhan o’i swyddogaeth weithredol. Mae gan Gyngor Sir Penfro amcan strategol i ddatblygu swyddi o fwy o werth i’r economi ac mae’n canolbwyntio’n strategol ar economi Sir Benfro er mwyn lleihau tlodi. Canolbwynt pwysig i’r ymdrech i gyflawni’r amcan hwn yw Canolfan Arloesedd y Bont, sef canolbwynt parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg ne’n rhan o strategaeth ehangach Menter Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Mae Canolfan Arloesedd y Bont yn darparu cyfleusterau cychwynnol ar gyfer busnesau newydd. Mae’n lle y gall busnesau sefydlu’u hunain, datblygu rhwydweithiau a thyfu.

Mae Sir Benfro’n sir wledig yn bennaf, ond mae Dyfrffordd y Ddau Gleddau (sy’n rhan o Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau ) yn borthladd o bwysigrwydd strategol. Mae tua 20% o ynni’r DU yn cael ei fewnforio, ei brosesu a’i ddosbarthu ar ffurf cynhyrchion olew wedi’u puro, nwy naturiol o LNG wedi’i ail-nwyo, neu drydan o’r orsaf bŵer tyrbinau nwy cylch cyfun 2000MW. Mae cadwyn gyflenwi fawr yn Sir Benfro i’r darparwyr ynni traddodiadol hyn sy’;n cyflenwi ynni’r DU. Ynghyd â sefydliadau strategol eraill fel Porthladd Aberdaugleddau ac Ynni Morol Sir Benfro, rydym yn awyddus i weld ein busnesau, yn enwedig y rhai yn y gadwyn gyflenwi, yn arallgyfeirio i faes ynni adnewyddadwy; rydym am weld Sir Benfro’n datblygu fel clwstwr ynni adnewyddadwy.

Bydd BUCANIER yn alluogwr sylweddol yn y broses o annog ein busnesau i ystyried y broses arloesi ar gyfer arallgyfeirio i’r farchnad hon. Mae ffurfio Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau’n cefnogi’r awydd hwn a bydd Ardal Arddangos Ynni De Sir Benfro sy’n gobeithio sefydlu Ardal Ynni Tonnau yn alluogydd allweddol a fydd yn sbardun i sefydlu canolfan ar gyfer cynhyrchu ynni morol. Mae gan Marine Energy Pembrokeshire rwydwaith sylweddol a bydd yn cefnogi gweithrediad BUCANIER fel prif randdeiliad o fewn y sefydliad.

Fel sir wledig, mae Sir Benfro’n dibynnu’n helaeth ar gynhyrchu bwyd, o ffermio i brosesu bwyd. Bydd BUCANIER yn alluogwr enfawr ar gyfer y sector hwn o fewn y Sir. Mae’r parc bwyd arfaethedig yn Llwynhelyg yn gyfle i wella’r clwstwr sydd eisoes wedi’i sefydlu gyda Pharc Bwyd Cross Hand yng Nghaerfyrddin, ond dim ond rhan o’r rheswm dros ddewis Cyngor Sir Caerfyrddin fel cyd-fuddiolwyr yw hyn. Eisoes mae gan Barc Bwyd Cross Hands gwmnïau Gwyddelig yn gweithredu oddi yno, sy’n rhoi cyfle i’r ddau ranbarth ddatblygu a gwella'r clystyru a’r rhwydweithiau sefydledig sydd ar waith.

BUCANIER Peter

Peter Lord

Mae gan Peter Lord radd BA Anrhydedd a Thystysgrif mewn Rheolaeth ac ef oedd rheolwr cyflawni prosiect INSPIRE a ariannwyd gan Interreg yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru. Mae ganddo 13 mlynedd o brofiad o weithio ym myd cefnogi busnes drwy'r awdurdod lleol, ble bu’n gweithio ar brosiectau a ariannwyd gan Ewrop, gan gynnwys cyngor, grantiau a hyfforddiant ar gyfer busnesau bach a chanolig.

Ffôn: + 44 01646 689303
E-bost: peter.lord@pembrokeshire.gov.uk

BUCANIER bord bottom img