Cyngor Sir Wexford

Cyngor Sir Wexford yw un o 31 awdurdod lleol yn Iwerddon, gan wasanaethu poblogaeth sydd ychydig llai na 150,000 o ddinasyddion. Mae’r Cyngor yn darparu dros 190 o wahanol wasanaethau yn ddyddiol ar draws 45 o leoliadau ledled Swydd Wexford.

Ymhlith ei brif wasanaethau mae tai a chymuned, ffyrdd a thrawsgludo, cynllunio a datblygu trefol, amwynder a diwylliant, a’r amgylchedd. Cyflenwir y rhain drwy fras benawdau datblygu polisi, gweithredu polisi, darparu gwasanaeth a rheoleiddio.

Mae’r awdurdod lleol yn gweithredu drwy strwythur o bedwar rhanbarth bwrdeistrefol, a phob rhanbarth yn canolbwyntio ar un o bedair prif dref Swydd Wexford. Cyllidebau gweithredu a chyfalaf Cyngor Sir Wexford yn 2016 oedd €100 miliwn a €75 miliwn yn y drefn honno. Mae’r Cyngor yn cyflogi bron 1,000 o staff ac mae ganddo 34 o aelodau etholedig, a reolir gan y Cathaoirleach.

Liz Hore

Liz Hore yw Uwch Swyddog Cyfrifol BUCANIER a hi yw Pennaeth Menter y Swyddfa Fenter Leol yng Nghyngor Sir Wexford.

Ffôn: +353 53 919 6204
E-bost: elizabeth.hore@wexfordcoco.ie

Siobhan Gethings

Siobhan Gethings – mae Gweinyddwr Prosiect Bucanier yn gyfrifol am gydlynu a gweinyddu’n effeithiol ymrwymiad Cyngor Sir Wexford i weithredu a chyflenwi’r Ymgyrch BUCANIER hon o chwe phartner. Mae Siobhan yn newydd i Gyngor Sir Wexford a daw o gefndir corfforaethol lle mae wedi rheoli prosiectau yn y Sector Gwasanaethau Ariannol a’r Sector Gofal Iechyd yn y DU.

Ffôn: +353 53 9196025
E-bost: Siobhan.Gethings@wexfordcoco.ie