DIGWYDDIAD DIGIDOL BUCANIER | ADEILADU BUSNES LLWYDDIANNUS AR-LEIN
Gweithdy drwy’r dydd ar fasnachu ar-lein, yn ymdrin â brandio, gwefannau a marchnata digidol i dyfu eich busnes.
Mae Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin wedi gweithio gyda BUCANIER, Web Adept, Highly a Darwin Gray i’ch helpu chi ddeall y byd masnachu ar-lein ac e-fasnach yn well.
Wrth i COVID-19 barhau i fod yn her i fusnesau, mae llawer yn cynnig eu cynnyrch a gwasanaethau ar-lein. Rydym hefyd yn gweld nifer o fusnesau newydd yn cyflwyno eu hunain ar-lein.
Mae ein diwrnod, ‘Adeiladu busnes llwyddiannus ar-lein’ wedi’i ddylunio i’ch helpu chi ddeall pwrpas eich brand, yr opsiynau sydd gennych i fasnachu ar-lein, yr agweddau cyfreithiol i’w hystyried a sut allwch chi dyfu eich busnes yn ddigidol.
Os ydych eisoes yn masnachu ar-lein, neu ar fin cychwyn gwneud hynny, dewch i ymuno â’n sesiynau a chwrdd â’r arbenigwyr digidol.
Beth fydd cynnwys y cwrs?
9:25am – Mewngofnodi
9:30am – Croeso gan Gwenllian Thomas, Cydlynydd Ymgysylltu Menter
9:35am – Brandio: Y pwysigrwydd o adeiladu brand credadwy ar-lein. Daniel Patterson, Highly
10:35am – Archwilio llwyfannau gwerthu ar-lein. Angus Findlay, Web Adept
(11:35am *Egwyl hamddenol 10 munud*)
11:45am – Sylfaen gwefan dda. Angus Findlay, Web Adept
12:45 * Egwyl Cinio ½ Awr*
1:15pm – Masnachu ar-lein: Canllaw cam wrth gam cyfreithiol, Tegen Quinn, Uwch Gydmaith, Darwin Gray
2:15pm – Trosolwg o farchnata digidol. Angus Findlay, Web Adept
(3:15pm *Egwyl hamddenol 10 munud*)
3:25pm – Holi ac Ateb gyda siaradwr gwadd
4pm – Cau, Gwenllian Thomas
Darperir un ddolen i Zoom ar gyfer y diwrnod llawn.
Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad?
Mae’r gweithdy hwn yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd eisoes yn masnachu ar-lein ac eisiau datblygu eu busnes presennol. Fodd bynnag, mae croeso i chi ymuno â ni os ydych yng nghanol creu busnes newydd hefyd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gweithdai Hwb Menter Caerfyrddin Ffocws yn agored i bawb, ond fe’u hanelir yn bennaf at fusnesau newydd a busnesau yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
********
MI FYDD Y SESIWN HON YN CAEL EI GYNNAL YN SAESNEG AR-LEIN. Mae yna ddogfennau Gymraeg ar gael os oes angen.
**
Mae Hybiau Menter Ffocws yn darparu gofod arloesol i ddeori a sbarduno busnesau newydd a’r rhai sy’n ehangu. Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd a Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn cael eu hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru
Mae’r digwyddiadau a ddarperir neu a gynhelir gan raglen Hybiau Menter Ffocws Llywodraeth Cymru am ddim ac yn agored i bobl o bob oedran, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae’r niferoedd yn brin a disgwyliwn alw mawr am lefydd, felly archebwch yn gynnar i ddiogelu’ch lle.