
Merched yn rheoli eu Hunain 17/11/20
Dathlu Merched sy’n Entrepreneuriaid
Ymunwch â Hwb Menter Caerfyrddin a BUCANIER wrth i ni groesawu tair siaradwraig ysgogol a busnesau sydd wedi ennill gwobrau i’n helpu i ddathlu’r Wythnos Fenter Genedlaethol.
Mae’r gynhadledd ‘Merched yn Rheoli eu Hunain’ wedi cael ei lansio i ddathlu ac annog entrepreneuriaeth ymysg merched yng Nghymru. Yn anffodus ni chawn gwrdd â phawb wyneb yn wyneb yn 2020, ar ddydd Mawrth 17 Tachwedd byddwn yn croesawu tri entrepreneur ar-lein:
- Kelly Davies, cyd-sylfaenydd The Good Wash Company;
- Marian Evans, sylfaenydd Elevate BC a pherchennog Castell Llansteffan;
- Elinor Davies -Farn, perchennog Olew.
Bydd Kelly, Marian ac Elinor yn rhannu eu straeon busnes, profiadau, heriau a’u prif gynghorion ynghylch cychwyn busnes.
Mae’r digwyddiad hwn yn gynhwysol ag yn agored i ddynion hefyd, nid merched yn unig. Byddwch yn cael cyfle i ofyn cwestiynau ar Zoom neu deipio eich cwestiwn yn yr adran sgwrsio ar y diwrnod. Peidiwch â bod yn swil!
Yn gyffredinol, mae merched yn wynebu mwy o rwystrau a diffyg hyder wrth gychwyn arni. Gan fod merched yn cael eu nodi fel grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol o ran cychwyn busnes, mae’r digwyddiad hwn wedi’i ddylunio er mwyn annog a chynnig cyfeiriad.
Ymunwch â’n hentrepreneuriaid benywaidd dylanwadol a’n busnesau newydd mwyaf disglair er mwyn rhannu syniadau a theimlo wedi’ch ysbrydoli.
- 9:50yb – Mewngofnodwch gyda’ch dolen Zoom
- 10:00yb – Croeso Gwenllian Thomas, Swyddog Ymgysylltiad Menter ac Angharad Harding, Cynghorydd Busnes.
- 10:10yb – Kelly Davies, The Good Wash Company
- 11:10yb – Egwyl 10 munud
- 11:20yb – Marian Evans, Elevate BC
- 12:20yh – Egwyl ginio
- 12:50yh – Elinor Davies- Farn, Olew
- 1:50yh – Diolch gan y tîm
- 2:00yh – Cloi
Ar gyfer pwy mae’r gweithdy hwn?
Mae’r gynhadledd yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim. Os ydych yn arwain busnes, menter fach, gyda syniad am fusnes neu eisiau rhwydweithio â’r gymuned leol, dewch i fwynhau a chael eich ysbrydoli. Mae croeso i bawb.
This item is also available in English/ Mae’r eitem hon ar gael yn Saesneg hefyd
Cefndir ein siaradwyr
Kelly Davies, cyd-sylfaenydd The Good Wash Company;
Mae Kelly, cyn Bel-droediwr Proffesiynol i Gymru, yn Entrepreneur Cymdeithasol sydd wedi ennill gwobrau. Aeth Kelly a’i chyd-sylfaenydd Mandy ati i greu brand Cymreig moethus gyda chydwybod gymdeithasol ddiymhongar. Brand a fyddai’n edrych yn dda yn y gorau o blith ystafelloedd ymolchi o Bort Talbot i Efrog Newydd, yn teimlo’n dda ar y croen a ffwr mwyaf sensitif tra’n gweithredu er gwell drwy fynd i’r afael â rhai o’r materion cymdeithasol o fewn cymunedau lleol. Mae Kelly’n gweld ‘Goodwash’ fel cyfle i brofi model sy’n dod i’r amlwg yn y sector menter gymdeithasol ac uwchraddio dylanwad ymhellach o fewn y gofod pwysig hwn.
Marian Evans, sylfaenydd Elevate BC
Mae Marian yn entrepreneur sydd wedi ennill nifer o wobrau ac yn ddiweddar enillodd wobr ‘Menyw Ysbrydoledig y Degawd’ yng Ngwobrau Menywod mewn Busnes Bae Abertawe 2019. Sefydlodd Marian Elevate BC yn 2017 gan gynnig Ymgynghoriad Busnes, Hyfforddiant a Mentora i unigolion a busnesau ledled y DU. Mae ffocws a gyriant Marian wedi’i gweld yn llwyddo mewn nifer o rolau uchel eu parch yn ystod ei gyrfa. Cafodd Marian ei geni a’i magu ar y fferm deuluol yn Llangynog, Caerfyrddin, a’i phryniant cyfrinachol o gastell Cymreig 900 mlwydd oed yw ei phrosiect diweddaraf.
Elinor Davies-Farn, Perchennog Cwmni Gwallt Olew
Yn entrepreneur o Aberystwyth, cychwynnodd Elinor ei busnes ei hun o’i chegin yn Llundain gyda £100 yn unig. Creodd Elinor ystod o gynhyrchion ar gyfer gwallt cyrliog, o’r enw ‘Olew’. Dywedodd Elinor: Ganwyd Olew o ganlyniad i’w rhwystredigaeth ei hun ynghylch peidio gallu dod o hyd i’r cynhyrchion cywir ar y farchnad i ofalu am ei gwallt cyrliog ei hun, roedd gan Elinor awydd i helpu merched i gofleidio eu gwallt naturiol, tra’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ar yr un pryd. Gan harneisio grym y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol, mae Olew wedi tyfu cymuned ar-lein ac mae’r ystod Olew hefyd wedi’i stocio mewn allfeydd byd-eang. Mae busnes yn ffynnu wrth i ferched y DU gofleidio eu gwallt naturiol yn ystod y cyfnod o dan gyfyngiadau.