BUCANIER Carlow logo

Sefydliad Technoleg Carlow

Sefydliad Technoleg Carlow yw’r pedwerydd sefydliad mwyaf o’r 14 Sefydliad Technoleg yn y wlad, a chanddo ryw 7,000 o ddysgwyr. Mae’n darparu rhaglenni addysg uwch a addysgir o lefel 6-9 ar y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, ynghyd â rhaglenni ymchwil ar lefel 9 a 10 a chyfleoedd datblygu menter, drwy ei ganolfannau yn Carlow a Wexford. Mae’r sefydliad hefyd yn darparu rhaglenni rhan-amser yn Carlow, Wexford, Wicklow, Kilkenny, Kildare (y Curragh), Shannon a Dulyn. Mae 80 y cant o’r dysgwyr wedi ymrestru ar lwybrau rhaglen gradd anrhydedd, a 12 y cant pellach wedi ymrestru ar raddau uwch i lefel PhD.

Mae Sefydliad Technoleg Carlow yn allweddol yn sbarduno cynnydd a datblygiad yn y rhanbarth. Mae’n datblygu a chynnal cysylltiadau ar bob lefel â Mentrau Masnachol, Diwydiannol, Cyrff Statudol, Asiantaethau Gwladol a Sefydliadau Rhyngwladol er mwyn creu datblygiad economaidd drwy addysg a throsglwyddo technoleg. O ystyried ei leoliad mewn man strategol hanner ffordd rhwng Dulyn a Waterford, un o nodweddion allweddol Sefydliad Technoleg Carlow yw ei rôl ddeuol yn gwasanaethu myfyrwyr a mentrau o’r de-ddwyrain ac o ardal Dwyrain y Canolbarth / Dulyn Fawr. Mae Sefydliad Technoleg Carlow wedi ymrwymo i hyrwyddo busnesau cychwynnol a throsglwyddo ei dechnoleg a’i wybodaeth i endidau sy’n fasnachol ddichonadwy. Gan weithio’n agos gyda sectorau diwydiannol a masnachol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, mae’r Sefydliad wrthi o hyd yn datblygu dulliau o gydweithio â busnesau presennol.

Mae Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn rhan annatod o weithgareddau Sefydliad Technoleg Carlow ac yn agwedd hanfodol ar ryngweithio’r Sefydliad gyda diwydiant a Sefydliadau Addysg Uwch eraill, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ei raglenni Ymchwil, Datblygu ac Arloesi cydweithredol wedi’u hariannu gan adrannau amrywiol o Lywodraeth Iwerddon, Rhaglenni’r Undeb Ewropeaidd, yr Awdurdod Addysg Uwch (HEA), Diwydiant, Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd (EPA), Cyngor Ymchwil Iwerddon ar gyfer Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (IRCSET), INTERREG, Rhaglen Ymchwil y Sector Technolegol, Enterprise Ireland a Sefydliad Gwyddoniaeth Iwerddon (SFI). Rheolir y rhaglenni drwy Ganolfan Cymorth Ymchwil a Masnacheiddio (RCSC) bwrpasol.

Mae meysydd ymchwil strategol y Sefydliad mewn Technolegau Bio-Amgylcheddol, Dylunio Diwydiannol ac Arloesi Cynnyrch, Rhwydweithiau a Meddalwedd Cymwysiadau Rhyngweithiol, Optimeiddio Ynni Gwyrdd, Uwch Dechnolegau Diogelwch, Gwyddorau Iechyd, a Mecatroneg Cymhwysol, Cylchedau a Systemau.

Ategir gweithgareddau Ymchwil, Datblygu ac Arloesi’r Sefydliad gan amryw gwmnïau campws a chanolfannau arbenigol ar y campws, sy’n cynnwys y Porth Dylunio a Thechnoleg, Canolfan Arloesi’r Campws a’r Ganolfan Ddeori Menter ac Ymchwil. Mae Canolfan Dargan y Sefydliad ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi yn ehangiad sylweddol ar amgylchedd Ymchwil, Datblygu ac Arloesi’r Sefydliad, sy’n gwneud y mwyaf o’r synergeddau buddiol rhwng gweithgareddau addysgu ac ymchwil a mentrau datblygu menter y Sefydliad. Agorwyd y Ganolfan yn 2014, ac fe’i cynlluniwyd i alluogi’r Sefydliad i fanteisio ar y cyfleoedd i gynhyrchu syniadau, cynhyrchu gwybodaeth a chyfnewid gwybodaeth, drwy gyd-leoli personél a chyfleusterau ymchwil amlddisgyblaethol arbenigol, gydag amrywiaeth o wasanaethau o ansawdd uchel ar gyfer ymchwil, masnacheiddio, datblygu menter a chefnogi ôl-raddedigion.

Fel y diffiniwyd yn ei Gynllun Strategol (2014-2018), mae Sefydliad Technoleg Carlow wedi ymrwymo i gyflenwi canlyniadau ymchwil gydag effaith glir ar gymdeithas neu’r economi a bydd yn cysylltu ag arweinwyr academaidd, diwydiannol a busnes i ddenu adnoddau a chydweithio yn unswydd i gynhyrchu’r canlyniadau ymchwil a masnachol o’r radd flaenaf.

BUCANIER Brian

Brian Ogilvie

Brian Ogilvie yw’r Pennaeth Cymorth Masnacheiddio ac Ymchwil a Rheolwr Prosiect BUCANIER yn Sefydliad Technoleg Carlow lle mae’n gyfrifol am reoli cydweithio’r Sefydliad â diwydiant, Canolfannau Deori, yr adran Trosglwyddo Gwybodaeth a chymorth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi. Bu ynghlwm wrth nifer o brosiectau Ewropeaidd gan gynnwys bod yn Rheolwr Prosiect ar gyfer INSPIRE (Initiating Pathways for Innovators, Researchers and Entrepreneurs) a gafodd ei ariannu’n rhannol o dan Raglen Cymru-Iwerddon IVA Interreg o 2012 i 2015. Mae gan Brian 24 o flynyddoedd o brofiad yn gweithio ym maes datblygu cynnyrch, rheoli technegol a rheoli busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig a Sefydliadau Rhyngwladol. Mae ganddo radd BSc o Brifysgol Genedlaethol Iwerddon Galway (NUIG), MSc mewn Rheoli Technoleg o Goleg Prifysgol Dulyn (UCD) ac MBA o Ysgol Fusnes Smurfit i Raddedigion UCD. Mae Brian hefyd yn darlithio mewn Entrepreneuriaeth, Rheoli Arloesi ac Ymchwil Busnes yn Sefydliad Technoleg Carlow.

Ffôn: +353 59 917 5223 
E-bost: brian.ogilvie@itcarlow.ie

Antoinette Jordan

Antoinette Jordan yw Gweinyddwraig Prosiect BUCANIER yn Sefydliad Technoleg  Carlow. Mae hi wedi cymryd rhan mewn nifer o brosiectau a rhaglenni Ewropeaidd gan gynnwys fel Swyddog Datblygu ar gyfer Interreg IVB Iwerddon-Cymru, Pwynt Cyswllt ar gyfer Interreg IVB Gogledd-Orllewin Ewrop, Gweinyddwr Prosiect ar gyfer y prosiect TRANSFoRm FP7 gwerth €9m (Ymchwil Gymhwysol a Diogelwch Cleifion yn Ewrop) a phrosiectau Interreg ac FP7eraill. Mae gan Antoinette 13 mlynedd o brofiad o weithio ar brosiectau’r UE mewn llywodraeth leol, llywodraeth ranbarthol a sefydliadau ymchwil. Mae ganddi radd BA o Goleg Prifysgol Cork, MSc mewn Gwyddor Gyfrifiadurol o Brifysgol Birmingham ac MBS mewn Llywodraethu o Goleg Prifysgol Cork.

Ffôn: +353 59 917 5078
E-bost: Antoinette.Jordan@itcarlow.ie

BUCANIER bord bottom img