Lansio BUCANIER
Bydd lansiad swyddogol BUCANIER (Building Clusters and Networks in Innovation Enterprise and Research) yn cael ei gynnal yn ystod Cynhadledd flynyddol UKSPA ar ddydd Iau 25 Chwefror 2018.
Sefydliad Gwyddor Bywyd, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe sydd yn cynnal y gynhadledd, a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Bydd y gynhadledd yn edrych ar amrywiaeth o brosiectau cydweithredol a phartneriaethau, a’r gwersi y gellir eu dysgu a’u cymhwyso at feysydd eraill.