BUCANIER swansea logo

Ysgol Feddygol / Prifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi tyfu’n aruthrol, ac wedi cyrraedd ei huchelgais o fod ymhlith y 30 prifysgol orau a arweinir gan ymchwil yn nhabl cynghrair Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF2014). Sefydlwyd y Brifysgol ym 1920 ac mae ei chymuned yn ffynnu ar archwilio a darganfod, gan gynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil ardderchog, ac ansawdd bywyd rhagorol.

Gan gyfrannu at gyflawniadau Prifysgol Abertawe, gwnaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe gynnydd mawr ymhen amser cymharol fyr. Yn 2001 sefydlodd ei Hysgol Glinigol ac mae bellach yn ymddangos yn gyson ymhlith 10 Ysgol Feddygol orau’r DU, a hefyd yn yr 2il safle ar gyfer ymchwil
cyffredinol ac yn 1af yn y DU am Amgylchedd Ymchwil (REF2014).

Mae prosiect BUCANIER yn rhan o Sefydliad Gwyddor Bywyd 2 Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, sef cyfleuster cydweithio ac ymchwilio unigryw sy’n dod ynghyd ag arbenigedd mewn ymchwil biofeddygol yn y labordy, iechyd cyhoeddus, gwyddorau poblogaeth, gwybodeg, a diwydiant, gan sicrhau effaith glinigol ar y byd go iawn.

Sally-Anne Gates

Mae Sally-Anne Gates yn Swyddog Prosiect BUCANIER yn Sefydliad Gwyddorau Bywyd Prifysgol Abertawe, gan ofalu am feysydd gwaith Abertawe. Ar ôl graddio o Brifysgol Bryste gyda gradd Meistr mewn Peirianneg Fathemategol.  Mae Sally wedi ennill cyfoeth o brofiad dros 20 mlynedd yn gweithio i fusnesau rhyngwladol, gan ymgymryd â rolau gwahanol o logisteg, masnachol, gwasanaethau cwsmeriaid, gwerthiannau technegol, rheoli prosiect i farchnata a digwyddiadau EMEA.

Mae wedi gweithio ar brosiect Enterprise Europe Network gan gynorthwyo busnesau yng Nghymru ac mae’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda BBaCh a mentrau cymdeithasol wrth gefnogi eu taith arloesi drwy gydweithio a mentora unigryw.

Ffôn: +44 01792 606359
E-bost: Sally-Anne.gates@swansea.ac.uk

BUCANIER Fern

Dr Fern Davies

Dr Fern Davies yw Swyddog Cymorth BUCANIER ar gyfer Sefydliad Gwyddor Bywyd (SGB) Prifysgol Abertawe. Ei phrif gyfrifoldeb yw gofalu am ardal weithrediadau Abertawe ar gyfer BUCANIER, sef cynyddu’r gallu arloesi ymhlith busnesau bach a chanolig a mentrau cymdeithasol drwy gydweithio. Mae SGB Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae ffiniau’r byd academaidd, diwydiant, y gwasanaeth iechyd a gweithredwyr eraill yn arloesi gyda’i gilydd. Mae cefndir Fern yn y byd academaidd a bu’n cydweithio â busnesau bach a chanolig a chyrff cefnogi. Mae ar fin cwblhau doethuriaeth mewn strategaeth fusnes, ac yn benodol busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Ffôn: +44 01792 606722
E-bost: f.b.davies@swansea.ac.uk

BUCANIER bord bottom img