Rydym yn falch iawn o’ch gwahodd i ddod i Ddigwyddiad Terfynu Prosiect BUCANIER ar 27 Ionawr 2021, rhwng 2.30pm a 4.00pm. Bydd y Digwyddiad Terfynu yn dod â phartneriaid, cyfranogwyr, mentoriaid a rhanddeiliaid ynghyd i rannu llwyddiant y prosiect a’r busnesau y mae wedi eu cefnogi. Bydd y digwyddiad hwn yn ddathliad o’r hyn yr ydym i gyd wedi’i gyflawni gyda’n gilydd rhwng 2017 a 2021.
Gobeithio y gallwch chi fod yn bresennol!
Yn ystod ein digwyddiad ar-lein, bydd siaradwyr gwadd yn ymuno â ni a byddwn yn arddangos amrywiaeth o fideos am straeon o lwyddiant gan ein Cyfranogwyr Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru ac Iwerddon, yn ogystal â’n FIDEO ETIFEDDIAETH, sy’n crynhoi’r prosiect cyfan.
Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel.
This item is also available in English/ Mae’r eitem hon ar gael yn Saesneg hefyd
Croeso i Bucanier
Mae BUCANIER (Building Clusters and Networks in Innovation Enterprise and Research) yn bwriadu cynorthwyo busnesau bychain sydd ar arfordir Môr Iwerydd dros y tair blynedd nesaf. Bydd y prosiect yn gweithio yn y sectorau twf allweddol yn economïau Cymru ac Iwerddon, sef bwyd a diod, gwyddorau bywyd ac ynni adnewyddadwy. Bydd yn ceisio cynyddu gallu arloesedd mewn busnesau bychain drwy gydweithio â sefydliadau Addysg Uwch a chyrff cyhoeddus eraill i hybu cynhyrchedd ar draws Iwerddon a Chymru.
Bydd y prosiect yn gweld y partner arweiniol, sef Cyngor Sir Penfro, yn ymuno â Sefydliad Gwyddorau Bywyd Abertawe a Chyngor Sir Gâr yng Nghymru ac Institute of Technology Carlow, Bord Iascaigh Mhara a Chyngor Sir Wexford yn Iwerddon.
Bydd BUCANIER yn:
DARPARU dosbarthiadau meistr mewn arloesedd.
CYNNIG mentora busnesau.
CREU rhwydweithiau newydd rhwng Cymru ac Iwerddon a fydd yn cynorthwyo mentrau yn yr un sectorau, rhannu gwybodaeth, cynyddu masnach draws-ffiniol a chreu swyddi newydd.
BUDDSODDI mewn syniadau ar gyfer datblygu dylunio a phrofi cynhyrchion newydd.
CYMHWYSO arloesedd seiliedig ar ddylunio i ddod â chynnyrch/gwasanaeth newydd yn agosach i’r farchnad fasnachol.

Pedwar Piler o Bucanier
Mae gan BUCANIER bedwar prif biler a fydd yn cael eu defnyddio i gryfhau ymchwil, datblygiad technolegol ac arloesedd
PROSES ARLOESEDD
Cyflwyno fframwaith arloesedd i helpu busnesau i ddeall y broses a’r arferion sydd eu hangen i greu syniadau newydd am gynnyrch a gwasanaethau a.
MEDDWL AM DDYLUNIO
Defnyddio gofodau gwneuthurwr dylunio a mentoriaid dylunio i gael mewnwelediad i’r syniad drwy ymchwil dylunio, syniadolaeth, mireinio.
MASNACHEIDDIO
Cynorthwyo sefydliadau i gyflwyno eu syniadau i’r farchnad fasnachol. Bydd ymarferwyr profiadol yn cynorthwyo i alluogi, hwyluso a herio materion.
CLYSTYRAU A RHWYDWEITHIO
Creu rhwydweithiau arloesi traws-ffiniol sector benodol i hyrwyddo rhannu syniadau, trosglwyddo gwybodaeth.

AM FWY O WYBODAETH
CYSYLLTWCH EICH LLEOL
GWEINYDDWR PROSIECT
Pembrokeshire
Peter Lord
Tel: +44 1646 689303
peter.lord@pembrokeshire.gov.uk
Swansea University
Sally-Anne Gates
Tel: +44 1792 606359
Sally-Anne.gates@swansea.ac.uk
Institute of Technology Carlow
Antoinette Jordan
Tel: +353 59 917 5078
Antoinette.jordan@itcarlow.ie
Wexford County Council
Siobhan Gethings
Tel: +353 53 9196025
siobhan.gethings@wexfordcoco.ie
Bord Iascaigh Mhara
Dr Jeanne Gallagher
Tel: +353 1 214 4124
Jeanne.Gallagher@bim.ie