Datganiad Preifatrwydd ar gyfer
BUCANIER y wefan ar gyfer Prosiect BUCANIER ERDF – Rhaglen Cydweithredu Iwerddon Cymru.
Mae BUCANIER yn enw cofrestredig sy’n eiddo i’r partner arweiniol ym mhrosiect BUCANIER, sef Cyngor Sir Penfro. Yn y ddogfen hon cyfeirir at wefan BUCANIER fel “Wefan”.
Gwybodaeth gyffredinol am y Safle hwn
Yn gyfrifol am y Safle: Cyngor Sir Wexford, cysylltwch â Siobhan Gethings: Siobhan.gethings@wcc.ie
Dylunio a gweithredu: Pixelpod
Pwrpas a maint y wybodaeth a gasglwn
Bydd unrhyw fanylion a roddwch i ni yn ôl eich dewis eich hun. Ni fyddwn yn trosglwyddo’ch manylion i drydydd parti heb eich caniatâd. Os byddwch yn llenwi’r ffurflen gyswllt, byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i gysylltu â chi yn y dyfodol.
Preifatrwydd
Nid yw BUCANIER yn casglu unrhyw wybodaeth bersonol am ddefnyddwyr, ac eithrio’r hyn a ddarperir yn fwriadol ac yn benodol atom gan y defnyddiwr. Mae BUCANIER wedi ymrwymo i sicrhau preifatrwydd eich gwybodaeth bersonol. Mae gan BUCANIER ffurflen ar-lein y gall aelodau’r cyhoedd ei lenwi i ofyn cwestiwn neu i gysylltu.
Ni fydd BUCANIER yn gwerthu nac yn trosglwyddo’ch gwybodaeth i unrhyw sefydliad arall oni bai eich bod yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny yn benodol ac yn unswydd.
Datgeliad
Ni fyddwn yn rhyddhau unrhyw fanylion personol i drydydd parti heb eich caniatâd.
Hawl i Fynediad
Yr unig fanylion y byddwn yn eu cadw sy’n perthyn i chi yw manylion yr ydych wedi’u rhoi i ni ac sydd eisoes yn y parth cyhoeddus.
Yr hawl i unioni neu ddileu.
Os credwch fod gennym unrhyw fanylion gweinyddol anghywir sy’n perthyn i chi, rhowch wybod i ni a byddwn yn ei gywiro.
Cwcis
Nid ydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan.
Diogelwch.Mae BUCANIER yn cymryd diogelwch o ddifri gan ddefnyddio dulliau diogel o drosglwyddo a storio unrhyw ddata a dderbynnir. Mae ein staff cymorth gweinyddol a thechnoleg yn ymwybodol ac wedi eu hyfforddi yn y mesurau a ddefnyddir.
Gwybodaeth gywir, gyflawn a chyfoes
Hoffem sicrhau bod y manylion cyswllt a gyflwynwyd gennych yn gyfredol er mwyn i ni gysylltu â chi yn y dyfodol i gadarnhau bod y manylion sydd gennym ar ffeil yn gywir.
Digonol, perthnasol, nid gormodol
Ein polisi ydy dal data a gyflwynir atom sy’n berthnasol neu’n angenrheidiol. Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru unrhyw ddata a dderbynnir drwy’r wefan yn rheolaidd. Byddwn yn dileu unrhyw wybodaeth nad yw bellach yn berthnasol nac yn angenrheidiol ar ôl 18 mis o’i gael.
Cadw
Caiff y data a gesglir eu cadw am ddim mwy na 18 mis neu ddim mwy na’r angen at y diben(ion).
Datrys cwynion
Os hoffech drafod unrhyw faterion neu bryderon sy’n ymwneud â phrosesu data personol ar ein gwefan neu unrhyw agwedd ar y wefan ei hun, cysylltwch â ni trwy e-bost neu bost.
Siobhan Gethings: Siobhan.gethings@wcc.ie
Wexford County Council
Carricklawn
Wexford
Co Wexford