
Digwyddiad Cloi
Rydym yn falch iawn o’ch gwahodd i ddod i Ddigwyddiad Terfynu Prosiect BUCANIER ar 27 Ionawr 2021, rhwng 2.30pm a 4.00pm. Bydd y Digwyddiad Terfynu yn dod â phartneriaid, cyfranogwyr, mentoriaid a rhanddeiliaid ynghyd i rannu llwyddiant y prosiect a’r busnesau y mae wedi eu cefnogi. Bydd y digwyddiad hwn yn ddathliad o’r hyn yr ydym i gyd wedi’i gyflawni gyda’n gilydd rhwng 2017 a 2021.
Gobeithio y gallwch chi fod yn bresennol!
Yn ystod ein digwyddiad ar-lein, bydd siaradwyr gwadd yn ymuno â ni a byddwn yn arddangos amrywiaeth o fideos am straeon o lwyddiant gan ein Cyfranogwyr Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru ac Iwerddon, yn ogystal â’n FIDEO ETIFEDDIAETH, sy’n crynhoi’r prosiect cyfan.
This item is also available in English/ Mae’r eitem hon ar gael yn Saesneg hefyd.