Ynni

Mae diogelwch ynni yn cael ei nodi fel her sylweddol ac mae hyn yn ymddangos yn yr EPF Cymreig a’r IS Gwyddelig. Mae yna angen am gymysgedd ynni cytbwys ac mae’r sbardunau galw, sef cynlluniau mawr i greu ynni carbon isel ac effeithiolrwydd ynni yn rhoi arwydd clir bod angen canolbwyntio yn yr ymgyrch tuag at ddiogelwch ein hadnoddau ynni yn y dyfodol. Mae manteisio ar ein hadnoddau naturiol fel ffynonellau o ynni adnewyddadwy yn un o ffocysau’r EPF ac mae’r echelinau blaenoriaeth penodol yn y rhaglenni EDRF yn dangos y gallai EDRF gefnogi ymchwil ac arloesedd sy’n ymwneud â phob agwedd ar ddiogelwch ynni, gan gynnwys effeithiolrwydd ynni.

Bydd BUCANIER yn cyfrannu at echelin blaenoriaeth arloesedd a bydd yn cefnogi ac yn cynyddu mentrau cydweithredol yn ymwneud â gwybodaeth rhwng sefydliadau ymchwil a’r SMEs sy’n rhan o’r gwaith. Bydd BUCANIER yn gallu cefnogi cyfleoedd o fewn y gadwyn gyflenwi i gael syniadau newydd am gynhyrchion a gwasanaethau, yn arbennig gyda’r arbenigedd sydd yna ar draws y rhanbarthau o ran ynni gwynt, ynni tonnau, cwmpas y llanw a llif y llanw. Mae Parth Menter Waterway Haven yn cynnig i gwmnïau ynni adnewyddadwy a thraddodiadol ac i sail diwydiant a chadwyn gyflenwi sefydledig, weithlu medrus, dosbarthiad a safleoedd, gydag ystod o feysydd cysylltiedig ag ynni.

Cafodd buddiolwyr BUCANIER eu dewis yn ofalus ac ar y naill ochr a’r llall o Fôr Iwerddon mae sefydliadau ymchwil sefydledig wedi eu cynnwys h.y. Prifysgol Abertawe ac IT Carlow sy’n ychwanegu gallu i drosglwyddo gwybodaeth o gapasiti ymchwil y ddau sefydliad. Mae Bord Iascaigh Mhara yn dod â hygrededd sylweddol o ran materion morol a dyframaeth i’r gwaith. Ymhellach, mae Canolfan Arloesedd y Bont yn cael ei nodi o fewn yr EPF fel prosiect buddsoddi allweddol sydd ar y gweill. Bydd BUCANIER yn cael ei redeg yn Sir Benfro o Ganolfan Arloesedd y Bont, a thrwy hynny bydd yn rhyngwynebu buddsoddiad allweddol o ran piblinellau gyda’r rhanbarth ehangach ac ar draws ffiniau Môr Iwerddon i Dde Ddwyrain Iwerddon.

BUCANIER innovation news

Bwyd

Mae diogelwch bwyd yn cael ei gydnabod fel her sylweddol gan Lywodraethau Cymru ac Iwerddon ond mae hefyd yn cynrychioli cyfle mawr ledled y byd i Gymru ac Iwerddon. Mae twf gwyrdd wedi’i dargedu i sicrhau cynnydd o 30% yn nhrosiant y sector blaenoriaeth bwyd a ffermio / amaethyddiaeth erbyn 2020. Mae twristiaeth bwyd, diogelwch bwyd a’r gadwyn gyflenwi bwyd yn ysgogwyr galw mawr o fewn y diwydiant bwyd, ac mae tlodi bwyd yn broblem wirioneddol ynghyd â’r angen i ofalu bod mwy o fwyd ar gael a’i fod yn fforddiadwy. Bydd BUCANIER yn cyfrannu at yr uchelgais o dyfu’r sectorau bwyd a diod. Mae’r dewis o fuddiolwyr yn arwyddocaol; mae gan Sir Gaerfyrddin y Parc Bwyd yn Cross Hands (menter ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Lleol). Mae cynlluniau manwl wedi eu paratoi bellach hefyd ar gyfer Parc Bwyd yn Llwynhelyg yn Sir Benfro.

Mae’r Bord Iascaigh Mhara yn Iwerddon ynghyd â galluogrwydd Ymchwil a Datblygu a throsglwyddo gwybodaeth y partneriaid ymchwil Prifysgol Abertawe LIS/IT Carlow yn dod â dimensiwn cryf ar gyfer clystyru traws-ffiniol mewn bwyd a diod gan alluogi SMEs i ddod â chynnyrch arloesol newydd, boed y rhain yn gynhyrchion bwyd newydd, cynhyrchion diogelwch bwyd a gwasanaethau neu gyfleoedd i ddatblygu cynnyrch i’r gadwyn cyflenwi bwyd yn nes at y farchnad gan alluogi SMEs i ddatblygu mwy o gyfleoedd i gystadlu’n rhyngwladol. Ymhellach, mae yna bosibilrwydd y gellir ymchwilio’n ehangach i gynhyrchion a gwasanaethau mewn ffermio ac ecosystemau rheoli tir er mwyn gallu manteisio ar farchnadoedd ehangach fel dal a storio carbon. Bydd y buddsoddiad mewn dull sy’n canolbwyntio ar ddylunio o fewn BUCANIER yn caniatáu i SMEs ymchwilio i’r potensial ar gyfer cynhyrchion eco-sensitif, gan gynnwys cyfleoedd ar gyfer pecynnu a dosbarthu.

BUCANIER ireland wales news

Gwyddorau Bywyd ac Iechyd

Mae Gwyddorau Bywyd ac Iechyd yn cael eu cydnabod fel cyfle economaidd. Mae yna heriau byd- eang sy’n gysylltiedig â phoblogaeth sy’n heneiddio ac mae demograffeg sy’n newid yn cynnig cyfleoedd marchnad sylweddol i fusnesau gwyddorau bywyd ac iechyd gynhyrchu twf economaidd.  Mae meddygaeth wedi’i bersonoli yn cynyddu ac mae arloesi sy’n ystyried elfennau masnachol yn sbardun a allai drawsnewid y modd y cyflwynir gofal iechyd yn y sector cyhoeddus a phreifat.  Bydd newidiadau demograffig yn gweld swyddi yn y sector gofal iechyd yn cynyddu i ateb galw cynyddol, a thrwy hynny yn cynnig cyfleoedd i arloesedd yn y sector.  Ymysg y sbardunau mae cyllid Ymchwil a Datblygu’r DU, buddsoddiadau mawr o ran seilwaith mewn iechyd a gofal cymdeithasol, llwyddiant

diweddar o ran buddsoddiad mewnol a chyllid buddsoddi masnachol mawr ar gyfer gwyddorau bywyd.  Mae yna alluogrwydd sylweddol yng Nghymru, gan gynnwys yr Hwb Gwyddorau Bywyd, HPC Wales a’r Sefydliad Gwyddorau Bywyd. Mae’r prif fuddiolwr ac ILS Prifysgol Abertawe wedi bod â chysylltiad sylweddol gyda HPC Wales ac roedd partneriaethau ffurfiol ar waith yn rownd cyllido flaenorol ERDF.  Nid camgymeriad yw hi fod ILS Prifysgol Abertawe wedi ei dewis fel buddiolwr ar gyfer gwaith BUCANIER.  Bydd eu cael i weithio fel partneriaid yn y gwaith hwn yn rhoi cyfle i SMEs yn Iwerddon a Chymru sy’n cymryd rhan yn ymgyrch BUCANIER i ddatblygu syniadau ar gyfer cynhyrchion newydd i ddefnyddio rhwydweithiau presennol a chreu rhai newydd a gynigir drwy gynnwys yr ILS. Mae’r awydd i greu cysylltiadau newydd o ran gwyddorau bywyd rhwng ILS ac Iwerddon yn gyfle sylweddol y mae buddiolwyr Ymgyrch BUCANIER yn awyddus i fanteisio arnynt. Yn ogystal, mae’r rhaglen i hyrwyddo byw’n iach trwy adloniant a hamdden awyr agored yn cael ei gydnabod gan raglen Iwerddon Cymru fel maes lle bydd arian yr UE yn ychwanegu gwerth at y sbardunau allweddol o fewn y cyfle economaidd. Mae hyn, ynghyd â’r gallu i weithio ar draws sectorau bwyd a diod i greu cyfleoedd ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau traws-sector, yn faes y mae BUCANIER yn awyddus i’w ddatblygu.

BUCANIER sector mobile
BUCANIER EFIW logo
BUCANIER SRA logo
BUCANIER IESIFP logo
BUCANIER ERDF logo